Ymunwch â ni am brynhawn o weithgareddau sbwci yn y Llyfrgell ar Nos Calan Gaeaf.
Mae Ynyr yr Ysbryd yn ei ôl i godi ofn! Dewch draw i glywed ei stori ddiweddaraf yng nghwmni’r awdur Rhian Cadwaladr ac i ddarganfod pwy yw Pip y dylwythen deg. Yn dilyn hynny, mwynhewch sesiwn hwyl a sbri llawn cacennau sbwci, crefftau Calan Gaeaf a helfa Calan Gaeaf.
Cost y digwyddiad yw £2 y plentyn, yn cynnwys cacen sbwci a diod; am ddim i oedolion gyda thocyn.
Mae’r digwyddiad yma’n addas i blant 3-7 oed.