Hwyl am ddim drwy’r haf

26 Gorffennaf 2022 – 2 Medi 2022

Am ddim

Dewch i ymweld â’n Gardd Glanfa, lle hudol i ddathlu’r haf a chael hwyl. Cadwch lygad am ‘Raintree’, un o Warchodwyr yr Ardd sy’n eistedd tu allan ar y balconi uwchben Teras ac a gafodd ei ddylunio gan Jimmy Ling sy’n 10 oed! 

Drwy’r haf byddwn ni’n dathlu natur, cynaliadwyedd a chymuned drwy amrywiaeth o weithdai a pherfformiadau i bob oed. Felly, dewch i gymryd rhan ac anghofio eich swildod: gallwch chi chwarae, bod yn wirion a chreu atgofion.

Cewch eich croesawu gan weithiau celf chwyddadwy hardd sydd wedi’u dylunio a’u gosod gan Designs in Air o Fryste. Dyluniwyd a chrëwyd y patrymau crosio gan Leopardwolf Morgan o Ferthyr Tydfil.

ARCHWILIO LLWYBR GWARCHODWYR YR ARDD

Mae’r Gwarchodwyr yr Ardd eraill digywilydd wedi mynd am dro… Drwy gydol gwyliau’r haf ymunwch â ni ar Lwybr Gwarchodwyr yr Ardd drwy’r adeilad i geisio dod o hyd i bob un ohonyn nhw.

Casglwch daflen y llwybr o’r ddesg docynnau (nesaf at y caffi Double Zero) a dechreuwch chwilio. Os byddwch chi’n ffeindio’r deg Gwarchodwr, dychwelwch eich taflen at ein tîm wrth y ddesg docynnau i gael bathodyn botwm o’ch ffefryn.