Noson i lansio cyfrol newydd – Y WAL GOCH: AR BEN Y BYD
Cyfrol newydd sbon gan wasg y Lolfa i ddiddori ac ysbrydoli wrth i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Cyfrol wedi ei golygu gan Ffion Eluned Owen, ac sy’n cynnwys cyfraniadau ar ffurf ysgrifau a cherddi gan 18 o gyfranwyr.
Bydd Ffion yn holi tri o’r cyfranwyr yn y lansiad – yr hanesydd Meilyr Emrys o Fethel, y newyddiadurwr Iolo Cheung o Lanfairpwll a’r cefnogwr pybyr Tommie Collins o Borthmadog. Cyfle am sgwrs a Q+A am y Wal Goch a Chymru yng Nghwpan y Byd.
Darlleniadau o’r gyfrol gan Begw Elain a chyfle i weld ambell fideo.
Adloniant gan Mei Emrys a’r Band.
Stondinau gan Na-Nôg (fydd yn gwerthu copïau o’r llyfr) a chwmni lleol o Benygroes sy’n creu nwyddau pêl-droed, BishBashBoshCymraeg
Croeso i bawb – edrychwn ymlaen at eich cwmni