![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/14/2022/11/llyfrau-308x336.jpg?0)
Bydd y lansiad o gyfrol newydd Elidir Jones, ‘Sgrech y Creigiau’ (Llyfrau Broga) yn digwydd fel rhan o ŵyl Abertoir. Ar y noson, fe gawn ddarlleniad gan Elidir Jones yn ogystal â sgwrs am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r llyfr a barn yr awdur am arswyd Cymraeg! Mae’r saith stori wedi eu sbarduno gan rai o hanesion gwerin iasoer Cymru ac wedi cael eu hail ddychmygu ar gyfer cynulleidfa newydd, ifanc. Ceir darluniau arswydus gan Nest Llwyd Owen i gyd-fynd â phob stori. Bydd copiau ar gael i’w prynu yn y digwyddiad. Mae’r llyfr yn fwy addas i ddarllenwyr 13 mlwydd oed ac i fyny.