Lansiad Sgrech y Creigiau

17:30, 14 Tachwedd 2022

Am ddim

Rhan o Abertoir 2022:
Dewch i i gwrdd â’r awdur Elidir Jones a dathlu ei lyfr diweddaraf, SGRECH Y CREIGIAU, cyfrol sy’n cynnwys saith o hen chwedlau werin wedi eu hail-ddychmygu ar gyfer cynulleidfa newydd, ifanc. Ceir straeon am ysbrydion, creaduriaid rhyfedd o lynnoedd tywyll, tylwyth teg twyllodrus, ellyllod, a bwganod eraill o gysgodion chwedloniaeth ein gwlad. Mae’r saith stori, a’r cymeriadau ynddyn nhw, yn plethu i un naratif iasoer. Gawn ni ddarlleniad o un o’r straeon yn ogystal â sgwrs am yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r llyfr a barn Elidir am arswyd Cymraeg! Mae Sgrech y Creigiau’n cael ei gyhoeddi gan Llyfrau Broga (31.10.2022). Bydd copïau o’r llyfr ar gael i’w prynu yn y digwyddiad. Mae’r llyfr yn fwyaf addas i ddarllenwyr 13 mlwydd oed ac i fyny.