Ers iddi gael ei chyhoeddi yn 1961 mae Un Nos Ola Leuad wedi cydio yn nychymyg cenedlaethau o ddarllenwyr Cymraeg ac mae nofel Caradog Prichard sy’n parhau i ennyn ymateb ysgubol yn rheolaidd.Bu i Bara Caws deithio’r addasiad llwyfan hwn gyntaf yn 2011 ac yn falch iawn o gael gwneud hynny eto eleni. Betsan Llwyd sy’n gyfrifol am y sgript sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Maureen Rhys a John Ogwen, ac mae’r fersiwn hon wedi ei chynnwys ar gwricwlwm lefel ‘A’ Drama CBAC ar hyn o bryd.
Gwaith ensemble fydd y cyflwyniad gyda’r cast yn cynnwys Owen Alun, Owen Arwyn, Celyn Cartwright, Siôn Emyr, Cedron Siôn a Manon Wilkinson.
Canllaw Oed 14+
Tocynnau ar gael nawr ar-lein neu trwy’r Swyddfa Docynnau
Oriau’r Swyddfa Docynnau
Llun i Gwener
9:30-16:30
01570 470697
Gallwch hefyd adael neges gyda’ch enw a’ch rhif ffôn ar y peiriant ateb, neu anfonwch e-bost at theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk