LLUNIO TEILS CERAMIG

11:00, 5 Tachwedd 2022

Am ddim

YN RHAD AC AM DDIM! GWEITHDAI CREU TEILS CERAMIG EFO LYN O PENMON POTTERY.

Dewch i roi cynnig ar greu teils ceramig er mwyn dathlu’r gymdogaeth. Bydd y teils clai’n cael eu casglu ynghyd i greu hanes ein hardal ac wedyn yn cael eu gosod i’w harddangos yn Neuadd Rhiwlas.

Does dim angen unrhyw brofiad ymlaen llaw. Bydd yr holl ddeunyddiau, yr offer a’r clai, a’r hyfforddiant am ddim. Mae croeso i rai o bob oed a gallu. Peidiwch a bod ofn dod.

Trefnwyd tri gweithdy, i’w cynnal yn Neuadd y Pentref fel a ganlyn:

Dydd Sadwrn Creu Teils:  5/11/22 11am – 3pm
Dydd Sadwrn Creu Teils:  12/11/22 11am – 3pm;
Dydd Sadwrn Gweithdy gwydro: 26/11/22 10am – 4pm

Ym mhob un bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn rhad ac am ddim!
Mae croeso ichi alw i mewn i unrhyw un o’r gweithdai, eu mynychu i gyd, neu dim ond un neu ddau ohonyn nhw.