Nantlle Vale v St Asaph

14:30, 12 Mawrth 2022

⚽NANTLLE VALE V ST ASAPH ⚽
?Dydd Sadwrn/Saturday 12/3/22
?14:30 C.g/K.O
?Maes Dulyn, Penygroes, Gwynedd LL54 6RW
? Lock Stock Ardal NorthWest 21/22 Ardal Northern Leagues
?Noddwr y bêl Mona Tractors Co. Ltd https://monatractors.co.uk/

Gêm gartref sydd gen ein tîm cyntaf Ddydd Sadwrn yma erbyn St Asaph. Bydd hi’n gêm heriol i’r Fêl a fydd rhaid canolbwyntio o’r dechrau os ydyn am ennill y pwyntiau.
Tydi’r canlyniadau diwethaf ddim wedi adlewyrchu safon uchel yr hogiau ond mae’r hogiau yn ffyddiog am y triphwynt ac edrych ‘mlaen i’r gêm.Ar y funud mae’r tîm glas a gwyn yn y degfed safle gyda St Aspah yn y safle trydydd ar ddeg yn y gynghrair.Tro diwethaf i’r timau chwarae yn erbyn ei gilydd oedd ar ddechrau Ionawr mewn gêm gwpan aeth i giciau o’r smotyn (4-2 i’r Fêl) a gêm gynghrair dechrau Hydref lle chwipiodd yr hogia triphwynt (2-1)ar ôl goliau gan Ashley Owen.

Croeso i chi gyd ymuno gyda ni yng nghae Fêl.Cost ar y giât yw Oedolion £4.00, Pensiynwyr £2.50,Ieuenctid £2.00 16-17 oed, Plant £1.00 11-15oed.Bydd y siop ar agor gyda ddigon o felysion a bwyd cynnes i’ch cadw trwy’r gêm.Yn sicr does neb eisiau methu’r gêm gyffrous yma.

?Noddwr y bêl yw Mona Tractors Co. Ltd. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.?

Gobeithiwn welwn ni chi yno, pob lwc hogia?
? ➡Cofiwch edrych ar dudalennau gyfryngau cymdeithasol ein noddwyr, diolch am eich cefnogaeth barhaus.⬇?
Teithiau Menai Travel
Dodrefn a Lloriau Perkins Furniture & Flooring
SnowdoniaBlueslatePottery
Motobeics Gwion Prys Motorcycles
Moduron GP Motors
Penygroes Super Store
Vaynol Plumbing & Heating
Bryn Pritchard Building Contractor Ltd
Llifon Coal Yard, second hand slates,timber and materials
cygnetfabrications
Fferyllfa Penygroes / Penygroes Pharmacy

?Llun gan Hannah Gwenllian, Diolch yn fawr?