Mae Wyndham Jones wedi hala blynyddoedd y lock-down yn cofio am gymeriadau lliwgar
bro ei febyd ynghyd a ffordd dra wahanol o fyw cyfnod y 40au a’r 50au – sawl buwch godro
oedd gan y ffermydd mawr a’r tyddynod bach – efail y gof, ac enwau’r ceffyle oedd yn cael eu
pedoli yno – siop Martha oedd yn gwerthu bwyd a dillad yn gymysg oll i gyd – ac am Sami Tro’drhiw
– yr ‘Iwnifersal Sypleier’ (Amazon ei ddydd – be bynnag o’ch chi ise / o le bynnag yn y byd –
rywsut, rywfodd bydde Sami’n dod o hyd iddo a’i ga’l e nol i ganol cefn gwlad y Cardis!
Ma’r cyfan yma rhwn cloriau CRIBYN – BRO FY MEBYD!