Ymunwch â’r fam a’r ferch Meinir a Mari Mathias ar gyfer y digwyddiad hynod ddiddorol yma yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd ar nos Iau 8 Tachwedd am 5:30pm.
Bydd Meinir yn sgwrsio gyda Churadur Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Mari Elin Jones am ei gwaith, sydd ar gael i’w weld yn arddangosfa ‘Sir Benfro: Ddoe a Heddiw’ yr Oriel.
Yn dilyn y sgwrs hon, bydd ei merch, y gantores Mari, yn rhoi perfformiad i ni er mwyn dathlu arddangosfa ddiweddaraf yr Oriel, Record, sy’n dathlu hanes y sin gerddoriaeth Gymraeg.
Mae’r digwyddiad yma trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd.