Bydd gwledd o siopa nadolig ar gael yn Llambed ar y Cyntaf o Ragfyr – siopau’r dref yn agor yn hwyr, stondinau diri âg anrhegion a danteithion, naws Nadoligaidd gyda adloniant ar y stryd, ac hefyd ymweliad gan Sion Corn.
Bydd Maer y dref, Helen Thomas, yn agor y digwyddiad am 4.30, a Gillian Elisa yn ymuno â hi i oleuo’r goeden am 4.50pm. Mae BBC Radio Cymru yn darlledu yn fyw o Lambed rhwng 2yp a 5yh, ac mae’n edrych yn debyg gewn ni ymweliad gan eu gwesteion arbenning nhw hefyd!
Bydd groto Sion Corn yn siop Lois Designs ar Heol y Bont gydag anrheg i bob plentyn, a ffair ar y stryd felly bydd digon i’ch diddanu rhwng y siopa a’r gwledda.
Croeso i bawb!