Operation Julie

19:30, 30 Gorffennaf 2022 – 19:30, 12 Awst 2022

£24 (£20) Pris Grwp 8+ £18 y tocyn

Theatr na nÓg & Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre yn cyflwyno Operation Julie 

Mae’n dod! Sioe gerdd newydd anarchaidd! 

Mae Theatr na nÓg yn falch iawn i fod yn gweithio ar y cyd gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyflwyno un o’r straeon gwirioneddol anhygoel i ddod allan o Gymru erioed … OPERATION JULIE. 

Mae ‘Breaking Bad’ yn gwrthdaro â ‘The Good Life’ mewn stori wir seicedelig o fryniau’r Gymru wledig.  

Nid cyrch cyffuriau arferol oedd hyn. Pan ddisgynnodd aelodau o’r heddlu o bob rhan o’r wlad ar Dregaron cyn y wawr un bore ym 1977, ‘roedd rhai o’r swyddogion yn debycach i hipis a welwyd mewn gig Led Zeppelin. Ac ‘roedd y rhwydwaith LSD yr oeddent yn ei dargedu yn enfawr, ac yn anghonfensiynol. Ymysg ei brif aelodau oedd meddygon, gwyddonwyr a graddedigion prifysgol – wedi eu cymell, gan ddyhead efengylaidd i newid y byd.  

Drama anarchaidd gyda cherddoriaeth o’r 70au sy’n adrodd y stori anhygoel am yr ymgyrch cuddiedig a chwalodd un o rwydweithiau cyffuriau mwyaf rhyfeddol a welodd y byd erioed.  

Perfformir yn Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg.  

16+ neu 14+ gyda chaniatâd rhieni 

Perfformiad BSL 7.30pm, nos Sadwrn 6 Awst

Sgwrs ar ol y sioe 7.30pm, nos Lun 1 Awst