Paganiaeth o dan yr Wyneb – Ffynhonnau sanctaidd Ceredigion a thu hwnt

15:30, 5 Awst 2022

Darlith flynyddol 2022 Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Dyma sgwrs sy’n olrhain traddodiad ffynhonnau sanctaidd o’r cyfnod cyn y Rhufeiniaid i’r amser presennol. Mae’n dangos sut wnaeth yr Eglwys cymryd drostyn nhw, yn enwi ffynhonnau ar ôl saint, ond ar yr un pryd sut parhaodd yr hen draddodiadau gwerin yno heb gael eu haflonyddu.

Bydd llawer o bobol yn gyfarwydd â’r syniad bod dŵr ffynhonnau sanctaidd yn gallu gwella salwch, ond efallai fydden nhw ddim wedi clywed am ddefodau od sy’n perthyn iddyn nhw, er enghraifft yfed oddi wrth benglog, neu aberthu ceiliog. Cafodd rhai ffynhonnau eu defnyddio er mwyn melltithio gelynion hefyd, hyd yn oed at yr oes Fictoria.

Siaradwr: Mike Farnworth, Lerpwl