Rhediad wythnosol i BAWB – o unrhyw allu neu brofiad – mae croeso i gerddwyr, loncwyr neu redwyr profiadol. Ffordd wych i ddechrau’r penwythnos ar gwrs hyfryd, gwastad ger Llanerchaeron. Parcio am ddim ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanercharon, a cherdded rhyw hanner milltir i gyfeiriad Aberaeron ar gyfer cychwyn y Parkrun.
Ddydd Sadwrn yma, yr 20fed o Awst, mi fydd rhediad rhif 150 o Parkrun Llanercharon. Dewch i ymuno mewn awyrgylch cefnogol a chyfeillgar.