Pencampwyr Gweuwaith

10:00, 13 Medi 2022 – 17:00, 3 Tachwedd 2022

Am ddim

Ar 3 Medi, 2022, cynhaliodd WWE ei ddigwyddiad stadiwm mawr cyntaf yn y DU ers 30 mlynedd yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

I ddathlu, daeth gweuwyr o bob rhan o Gaerdydd, gan gynnwys gweithdy gwaith llaw Twin Made, ynghyd i greu siwmper.

Nawr gallwch chi weld y siwmper unwaith eto cyn iddo fynd i ddwylo preifat yma yn Amgueddfa Wlan Cymru.

Mae’r siwmper gwau unigryw hon wedi’i gwneud o wlân defaid o ffynonellau lleol. Mae’n asio motiffau Cymreig enwog ag elfennau eiconig WWE gan gynnwys logo “Clash at the Castle”, sydd wedi’i wnio’n gariadus i’r cefn. Fy gymerodd hi 8 person 140 awr i’w greu. 

Cyflwynwyd y siwmper i un o enwogion mwyaf WWE, Drew McIntyre, pan gyrhaeddodd ddinas Caerdydd cyn y digwyddiad ‘WWE Clash at the Castle’.