Porthladd Lerpwl – man geni iechyd cyhoeddus

19:00, 18 Chwefror 2022

Am ddim

Tyfodd Lerpwl yn gyflym yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, a daeth ei masnachwyr yn gyfoethog dros ben. Ond ochr arall y geiniog oedd tlodi, salwch, a marwolaeth i bobl gyffredin y porthladd a’r ymfudwyr oedd ar eu ffordd i America. Ar un adeg roedd can mil o bobl yn byw mewn ardal un filltir sgwâr, yn dibynnu ar ffynhonnau dwfn am eu dŵr: amgylchiadau perffaith ar gyfer y colera. Bu farw miloedd o bobl.

Mae Dr D Ben Rees, Gweinidog Emeritws Capel Bethel, Lerpwl, yn enwog yn y ddinas fel hanesydd lleol. Bydd e’n esbonio sut brwydrodd Lerpwl yn ôl gyda gwyddoniaeth, hylendid, a dyfalbarhad. Daeth y gwelliant enfawr gan y ddinas yn amlwg yn ystod pandemig colera olaf y ganrif, yn 1892. Yn y flwyddyn honno bu farw 8,600 o bobl yn Hamburg, ond yn Lerpwl, diolch i’r mesurau iechyd cyhoeddus, roedd dim ond pedwar o farwolaethau oherwydd y colera.