Ymunwch â ni ar gyfer Seminar Ymchwil Dr Rebecca Ward p Brifysgol Abertawe.
Yn aml, mae gan blant sydd ag anableddau datblygiadol fel syndrom Down (DS) neu Awtistiaeth, anawsterau dysgu iaith. O ganlyniad, mae pryderon wedi’u mynegi ynghylch gallu’r plant hyn i gaffael dwy iaith (neu ragor), a gallai rhieni gael eu cynghori i ddefnyddio un iaith yn unig gyda hwy. Mae’r ymchwil hon yn edrych ar broffiliau iaith plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg gyda syndrom Down a phlant sy’n datblygu mewn modd nodweddiadol, o’u cymharu â’r rhai sy’n siarad un iaith yn unig. Y nod yw amlygu’r ffactorau sy’n gysylltiedig â galluoedd iaith yn y grwpiau hyn. Byddwn yn trafod dulliau clinigol ac addysgol pwysig o gymhwyso’r canfyddiadau yn ogystal â chynigion ar gyfer datblygu ymchwil yn y maes hwn yn y dyfodol.
Traddodir y seminar yn Gymraeg dros Zoom.
Dilynwch y ddolen isod er mwyn cofrestru neu cysylltwch â cymraeg@caerdydd.ac.uk am fwy o fanylion.