‘Rhoi Golau Newydd ar yr Esgob Burgess’ (Digwyddiad Ar-lein)

17:00, 26 Ebrill 2022

Cynhelir noson holi-ac-ateb yng nghwmni’r Athro John Morgan-Guy a’r Is-Ganghellor Yr Athro Medwin Hughes DL fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant y brifysgol.

Dywedir mai Thomas Burgess, sylfaenydd Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan, oedd yr esgob Seisnig gorau a welodd Cymru erioed. Ef hefyd oedd llywydd cyntaf y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol, un o sylfaenwyr Cymdeithas Amaethyddol Odiham a helpodd i sefydlu’r Coleg Milfeddygol Brenhinol. Bydd y sgwrs hon yn ychwanegu goleuni newydd ar ei flynyddoedd ffurfiannol a’r dylanwadau arno.

Byddwch yn gallu ymuno â’r drafodaeth drwy glicio ar y ddolen ganlynol: DOLEN TEAMS LINK