Mae profi teimladau o bryder a straen yn gyffredin i nifer ohonom ni ac mae’r teimladau yma yn gnweud hi’n anodd i ni ymlacio a bod yn hapus.
Yn y sgwrs yma bydd yr athro myfyrdod profiadol Kadam Paul Jenkins yn rhannu dulliau myfyrio a ffyrdd o feddwl sy’n deillio o ddysgeidiaeth Bwdha i helpu ni gael gwared o’r straen a’r pryder sydd yn ein meddyliau a’n galluogi i ymdrin â’n emosiynau negyddol yn fwy hyderus ac effeithiol.
Mae’r sgwrs yma yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i fyfyrio a’r rhai sy’n dymuno dyfnhau eu profiad.