
Rholiwch am Wellhad
Cwmni Ennyn
Yn Theatr y Maes – fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron 2022!
Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf – 3yp
Dydd Gwener 5 Awst – 2.30yp
Mae’r sioe yn trafod cancr a thriniaeth feddygol, ac yn addas i oedran 12+
Mae grŵp o bobl ifanc yn cwrdd mewn ysbyty am ddiwrnod o nodwyddau, procio, pils a gwenwyn – ystadegau a lwc sy’n penderfynu eu tynged. Mae grŵp o anturiaethwyr ifanc yn cwrdd i ddechrau taith ar draws gwlad ddieithr – rholyn o ddis sy’n penderfynu eu tynged. Dyma stori am ddewrder a chyfeillgarwch mewn dau fyd, lle mae brwydro dreigiau yn teimlo’n haws na brwydro cancr.
Cwmni Ennyn sydd wedi dyfeisio’r darn unigryw o theatr yma, sydd yn cynnwys opsiynau stori wahanol, wrth i’r gynulleidfa rholio dis!
Gobeithiwn byddech yn gallu ymuno gyda ni am berfformiad arbennig iawn, yn llawn chwerthin, dagrau, ac yn fwy na ddim byd, gobaith.
Bydd Anna Sherratt, sydd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo’r sioe, yn trafod y perfformiadau yn ystod panel “Llwybr Dadeni” ar Lwyfan y Llannerch ar Ddydd Sul 31 Gorffennaf am 2.15yp.