Mae Rhywbeth Bach yn Poeni Pawb

17:00, 9 Mehefin 2022

Wrth feddwl am y gwahanol anhwylderau sy’n poeni dyn, mae rhai ohonynt wedi bod hefo ni ers canrifoedd, rhai wedi diflannu bron yn gyfangwbl ac eraill yn rhai mwy diweddar.

Rhai o’r anhwylderau yma fydd dan sylw’r naturiaethwraig a ddarlledwraig Bethan Wyn Jones: rhai fel anwyd a pheswch, defaid ar y croen, crydcymalau, diffyg traul, erthyliad, iselder a chwain.

Ymunwch i ddarganfod pa blanhigion a ddefnyddiwyd i drin yr anhwylderau hyn, yn y sesiwn yma ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

**Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd**