Sgwrs i drafod syniadau straeon Ogwen360 

18:00, 8 Tachwedd 2022

Mae cyfarfod ar-lein byr yn cael ei gynnal am 6pm nos Fawrth nesaf, 8 Tachwedd i drafod syniadau am straeon ar gyfer gwefan Ogwen360.

Ar ddiwedd y mis, bydd Wythnos Straeon Lleol yn cael ei gynnal lle mae her i bob gwefan fro sy’n rhan o rwydwaith Bro360 i gyhoeddi 7 o straeon amrywiol gan 7 person lleol gwahanol. Yn ogystal, mae sialens hefyd i ychwanegu 14 o ddigwyddiadau yng nghalendr lleol Ogwen360.

Felly, beth am ymuno yn y sgwrs anffurfiol sy’n cael ei gynnal dros Zoom ar y we am ryw gwta hanner awr i drafod syniadau am sut all Ogwen360 fynd amdani a dathlu Wythnos Straeon Lleol eleni.

Os am ymuno, anfonwch neges uniongyrchol i Ogwen360 ar y gwefannau cymdeithasol: Twitter, Facebook neu Instagram.