Cefnogi siaradwyr newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol: dewch draw am baned a chlonc
Hir yw pob aros, ond mae’r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod ar eu hanterth o’r diwedd.
Bydd miloedd o ddysgwyr a siaradwyr newydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn heidio i’r maes, felly beth am ddod draw i’r caffi ym Maes D am baned a chlonc i’w croesawu i Geredigion?
Byddwn yn cynnal sesiynau sgwrsio anffurfiol bob dydd rhwng 2.30 a 3.30 y prynhawn, ac mae angen eich help arnom.
Y cyfan sydd eisiau ei wneud yw galw heibio; bydd aelodau o staff wrth law i’ch croesawu a chardiau siarad i sbarduno sgyrsiau syml.
Cysylltwch â ni drwy ebost: learnwelsh@aber.ac.uk neu ffoniwch 0800 876 6975 os gallwch dreulio ychydig o amser yn siarad â dysgwyr ystod yr wythnos.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Nhregaron!