Sialens y Barcud Coch

11:00, 30 Ebrill 2022

£8-20

Mae Sialens y Barcud Coch yn ôl! Peidiwch colli’r cyfle i gymryd rhan yn rasys rhedeg trêl mwyaf heriol, ond hefyd mwyaf prydferth Cymru.

Bydd y digwyddiad, sydd hefyd yn cynnwys rasys ieuenctid i oedrannau dan 13 i dan 20, yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill 2022 ym Mhontarfynach, Ceredigion.

1/2 Marathon Ras y Barcud ydy prif ras trêl Canolbarth Cymru, ac unwaith eto eleni bydd yn cynnwys Pencampwriaethau Trêl Cymru a Phencampwriaethau Trêl Gorllewin Cymru.

Mae’r rasys ieuenctid, sy’n amrywiol mewn pellteroedd o 3k i 10k, hefyd yn cynnwys Pencampwriaethau Cymru a Gorllewin Cymru, felly mae disgwyl i redwyr trêl gorau Cymru o bob oedran dyrru i Bontarfynach.

Mae manylion llawn trefniadau’r diwrnod, ac amserlen y rasio ar gael nawr.

Bydd Ras y Barcud eleni unwaith eto’n codi arian at achos da lleol, sef uned chemotherapi Ysbyty Bronglais yn Aberyswyth.

Mwy o wybodaeth yn y stori BroAber360.