Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion

09:30, 11 Mehefin 2022

Oedolion £10; 14-18 oed £5; Plant o dan 14 oed AM DDIM

Dewch i ddathlu’r 75ain Sioe. Dewch i gwrdd â ffrindiau, trafod busnes a mwynhau cefn gwlad Ceredigion ar ei orau.

Mae cystadlaethau ar gyfer pob lefel. A oeddech chi’n un o’r miloedd o deuluoedd groesawodd ci i’ch aelwyd yn ystod y cyfnod clo? Dewch i gael hwyl gyda’r ci yn yr Adran Campau Cŵn Campus. Beth am droi eich llaw at gystadlaethau i ffotograffwyr neu gelf a chrefft, neu addurno wyau?!

I ddathlu’r achlysur, mae gennym lu o atyniadau, yn cynnwys Meirion Owen a’r Quack Pack, arddangosiad hen beiriannau, cerddoriaeth fyw gan y Welsh Whisperer, ardal blant ac arddangosiad cŵn adar.

Bydd bws gwennol AM DDIM bob 30 mun rhwng 10:00-16:00 o Orsaf Fysiau Aberystwyth.

Nos
Gyda’r nos, mae mwy o adloniant ar eich cyfer. Yn ymuno gyda ni i ddathlu bydd Dafydd Iwan a’r Band, Welsh Whisperer a’r Hambon Band a pheidiwch ag anghofio’r cneifio cyflym! Mae tocynnau ar wahan ar gyfer y digwyddiad nos a gellid eu prynu yn Siop inc, Aberystwyth.
Oedolion £10; 14-18 oed £5; Plant o dan 14 oed AM DDIM