Sosial CFfI Troedyraur

07:30, 12 Medi 2022

Ydych chi rhwng 10 a 28? 
Eisiau cwrdd â ffrindiau newydd a chael cyfleoedd unigryw i ddysgu sgiliau newydd? 
Wel ymunwch â CFfI Troedyraur! 

Ni’n cwrdd bob nos Lun am 7:30 yn Ysgol T Llew Jones ac yn gwneud amryw o wahanol gweithgareddau. 

Cewch gyfle i gystadlu mewn cystadleuthau megis chwaraeon, canu, actio, barnu stoc, celf a chrefft a llawer mwy, neu ‘jyst joio’ trwy wneud gweithgareddu gwahanol bob nos Lun gyda ffrindiau. 

Os hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’n hysgrifennyddes, Elen ar 07805 286 990.

CROESO I BAWB a WELWN NI CHI ‘NA!