Yr Athro D. Densil Morgan
Symposiwm Rhithiwr gan Gyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Symposiwm rhithiol i nodi 400 mlwyddiant geni Stephen Hughes (‘Apostol Sir Gaerfyrddin’). Mewn cyfres o bedair darlith byddwn yn trafod addysgu’r werin yn y cyfnod modern cynnar gan ganolbwyntio ar addysgwyr o sir Gaerfyrddin.
Bydd y ddarlith yn trafod bywyd a gwaith yr Ymneilltuwr Stephen Hughes (1622-88), ‘Apostol Sir Gaerfyrddin’, a wnaeth lawer i gadw yn fyw y cof am Rhys Prichard, ficer Llanymddyfri gynt, trwy gyhoeddi ei gerddi poblogaidd yn y gyfrol Cannwyll y Cymry. Roedd hyn yn rhan o ymgyrch hynod rhwng Eglwyswyr ac Ymneilltuwyr i hyrwyddo’r ffydd Gristnogol mewn cyfnod o begynnu crefyddol mawr.
Mae’r digwyddiad yma trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd.