Swper Bara a Chaws

19:00, 18 Hydref 2022

Am ddim

Mewn ymgais i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol ar gyfer eu dathliadau diolchgarwch eleni, bydd aelodau Capel Bronant yn cynnal swper bara caws, gyda chyfle i gyfrannu rhoddion i Fanc Bwyd Aberystwyth. Nos Fawrth, 18 Hydref am 7 o’r gloch yn y Festri. Mae’r mynediad am ddim ac mae croeso cynnes i’r gymuned gyfan.