Swyn Sain

13:00, 27 Awst 2022

£4

Eleni bydd gŵyl Ara Deg yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau ymylol yn Neuadd Ogwen, Bethesda. Yn bennaf, bydd gweithgareddau a digwyddiadau ar ddydd Sadwrn y 27ain o Awst. I dechrau’r diwrnod bydd ffair recordiau gyda nifer o recordiau prin a chasgladwy o’r 60au a’r 70au, a stondinau gan recordiau Ankst ac ambell record brin gan y Super Fury Animals ac eraill.

Byddwn hefyd yn cael cyfres o sgyrsiau gyda 4 arlunydd a ffotograffydd a oedd yn rhan flaengar o greu rhai o gloriau a logos recordiau Sain. Yn cymryd rhan yn y sgyrsiau yma bydd Jac Jones (dyluniwr clawr Hedfan gan Brân, Yn Erbyn y Ffactore gan Edward H Dafis, record hir gyntaf Leah Owen a’r casgliad Goreuon Sain Eto), Stuart Neesham (dylunydd wnaeth greu logos Yr Atgyfodiad a logo sengl Brân i recordiau Gwawr, a posteri i gigiau prifysgol Bangor), Garry Stuart (ffotograffydd clawr record Meic Stevens Gog), a Robert Eames (ffotograffydd a dylunydd wnaeth greu clawr albwm olaf Brân Gwrach y Nos).

I ddathlu’r achlysur yma byddwn yn cynhyrchu llawlyfr unigryw gyda lluniau bandiau gwreiddiol, posteri gigiau a chyfweliadau. Cost y digwyddiad fydd £4 (gan gynnwys y llawlyfr) neu medrwch archebu’r llawlyfr trwy wefan Neuadd Ogwen