I gloi’r gyfres o sgyrsiau bydd Yr Athro E Wyn James yn canolbwyntio’n arbennig ar hanes Thomas Charles a Mary Jones, y ferch y mae hanes ei thaith i’r Bala i brynu Beibl mor gyfarwydd i gynifer ohonom. Cawn gip hefyd ar gynnwrf cynhyrchu a lledaenu Beiblau yn y 19eg ganrif yng Nghymru a thu hwnt.