Syrjeri TG yn M-SParc #AryLôn Caernarfon

Am Ddim

Cymorth a Chyngor TG dros baned a hobnobsan fach? Rhywun awydd hi? Nabod rhywun sydd angen o? ??☕?

Rydych chi, aelod o’r teulu neu gydweithiwr angen help llaw a chyngor gyda’ch cyfrifiadur, ffôn symudol neu lechen (Tabled)?

Galwch heibio ac ymunwch â ni yn ein Syrjeri TG yn M-SParc #ArYLôn yng Nghaernarfon, er mwyn dysgu sut mae datrys neu oresgyn eich heriau digidol.

Mae’r sesiynau yn cael ei redeg ar ffurf cyfarfod, felly cyfle i unrhyw un i droi fyny ac unrhyw un ofyn cwestiwn, fel bod pawb yn dysgu gyda’i gilydd.

Sesiynau yn dechrau o Ddydd Llun y 14eg o Fawrth rhwng 1300 a 1500, ac yna’n parhau pob yn ail ddydd Llun nes ddiwedd Mis Mai.