Taith o Drefechan i Dregaronbethan@cymdeithas.cymru
2pm dydd Sul, 31 Gorffennaf – cwrdd ar bont Trefechan Ymunwch â’r daith o leoliad protest gyntaf y Gymdeithas, pont Trefechan, i’r Eisteddfod yn Nhregaron i nodi wythnos o ddathlu’r chwedeg mlwyddiant! Bydd taith feicio a cherdded yn dechrau yn dechrau o’r bont eiconig am 2pm ddydd Sul y 31ain a chroeso mawr i unrhyw un ymuno. Byddwn ni’n trefnu ceir o Drawscoed i Dregaron i’r cerddwyr. Rhowch wybod os ydych chi’n bwriadu ymuno â’r daith gerdded, er mwyn i ni drefnu digon o geir i gludo pobl i Dregaron. Noder hefyd, er mai Cymdeithas yr Iaith sydd wedi cynllunio’r llwybr, bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan yn y daith yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â