Taith Gerdded o Gaernarfon i Nefyn

08:00, 10 Medi 2022

Ymunwch â chriw Cronfa Caernarfon at Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd trwy gerdded o Gaernarfon i Nefyn i gasglu arian ar gyfer Cronfa’r Eisteddfod.

Mae Caernarfon angen casglu cyfanswm o £30,000 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023 a bydd y daith gerdded yma yn un o sawl digwyddiad sydd wedi’i trefnu er mwyn casglu nawdd.

Bydd y criw yn cychwyn o’r Maes yng Nghaernarfon am 8yb ar y 10fed o Fedi gan gerdded draw tuag Nefyn a gorffen trwy fwynhau diod haeddianol yn Cwrw Llŷn!

Nid oes yn rhaid i neb gerdded y daith gyfan ond cysylltwch gyda cronfacaernarfon2021@outlook.com os hoffech gymryd rhan neu noddi’r cerddwyr! 

https://fb.me/e/2TArh78H8