CYD Llandysul
Taith Gerdded Hanes Lleol Ar gyfer Dysgwyr Cymraeg o bob safon.
Nos Iau, Mehefin 16eg, 7.30yh
Cwrdd ym maes parcio Y Porth, Stryd yr Eglwys, Llandysul SA44 4QS
Taith a sgwrs am hanes Llandysul gyda Lesley o Gymdeithas Hanes Lleol Llandysul a’r Fro, gorffen yn Y Porth am luniaeth.
Mae croeso i bawb ond Cymraeg yw iaith y daith!
Tua 1.5 awr. Rhai rhiwiau ond digon o arosfannau i ddal eich gwynt!
cydllandysul@gmail.com
Diolch am y gefnogaeth gan Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul a’r Fro a Chroeso i Gerddwyr Llandysul a Phont-Tyweli.