Ymunwch â ni ar ein taith gerdded nesaf yng nghwmni Dr Ffion Eluned Owen.
Taith yn cychwyn ym maes parcio’r Ganolfan yn Nhalysarn, gan ddringo am Danrallt a Chwarel Fronheulog cyn dod yn ôl drwy Lôn Ddŵr a Chaer Engan.
Dewch i ddysgu mwy am bentref hynod Tanrallt, am hanes chwareli ochr ddeuheuol y Dyffryn ac i weld y fryngaer Geltaidd ger Llanllyfni sy’n perthyn i Oes yr Haearn.
Rhybudd: Fe all y tir fod yn fwdlyd mewn mannau felly cofiwch wisgo esgidiau addas.
Manylion Pwysig:
- Cychwyn am 10.30yb o Ganolfan Talysarn
- Byddwn yn anelu i gyrraedd yn ôl erbyn tua 1yp
- Angen esgidiau addas a fflasg
- Angen cofrestru: anfonwch e-bost at post@yrorsaf.cymru
Taith wedi ei threfnu gan Yr Orsaf.