Bydd Rhys Mwyn yn arwain taith hamddenol fydd yn rhoi cipolwg ar hanes Hirael, Porth Penrhyn a Chastell Penrhyn. Mae’r daith yn addas i ddysgwyr Cymraeg a bydd cyfle i ddod am banad, sgwrs a dro o amgylch gerddi Castell Penrhyn wedyn.
I gofrestru e-bostiwch penrhyncastle@nationaltrust.org.uk. (nifer cyfyngedig)