CYHOEDDI LLYFR NEWYDD: THE FADED GLORY – The Tivyside Squires and their Mansions. Gan Gerwyn Morgan.
Cyhoeddwyd llyfr newydd yn ddiweddar am deuluoedd bonheddig ardal y Teifiseid yn ne-orllewin Cymru. Mae’r llyfr yn rhoi cipolwg ar ffordd o fyw’r teuluoedd hyn ynghyd â ffordd o fyw eu gweision o’r 17eg ganrif hyd at eu dirywiad a’u tranc yn chwarter cyntaf yr 20fed ganrif.
Efallai nad oedd eu ffordd o fyw ar yr un lefel o ran y raddfa a’r moethusrwydd a bortreadir yn y gyfres deledu, Downton Abbey, ond i’r rhan fwyaf o sgweiars y
Teifiseid a’u teuluoedd, roedd yn ffordd o fyw faldodus iawn. Roedd yn ffordd o fyw
wedi’i seilio ar yr incwm sylweddol a enillwyd o renti ffermydd yr ystâd yr oedd y
sgweiars hyn yn berchen arnynt. Roedd yn caniatáu iddynt fyw mewn tai gwledig
mawr ac mewn sawl achos, mewn plastai hardd, i gyd yn cael eu gwasanaethu gan
fyddin fechan o weision a oedd yn cynnwys bwtleriaid, ceidwaid tŷ, cogyddion,
morwynion, gweision stabl, coetshmyn a hyd yn oed gweision mewn lifrai.
Rhoddir sylw i bum deg o blastai y Teifiseid yn y llyfr sydd yn cynnwys bron i 300 o
dudalennau gyda 150 o ffotograffau. Ceir penodau ar y bywyd cymdeithasol a’r
bywyd hela roedd y sgweiars gwledig hyn yn ei fwynhau yn ystod oes Fictoria
pan oedd y gymdeithas glos ac unigryw hon o foneddigion Saesneg eu hiaith yn bennaf a
fynychai’r eglwys yn mwynhau partïon tŷ moethus, priodasau byddigions a dawnsfeydd yr helwyr, a oedd bron bob amser yn cynnwys prydau bwyd danteithiol ac anferthol fawr.
Mae’r llyfr yn rhoi cipolwg cyfareddol ar orchestion, hynodion a sgandals y sgweiars hyn a oedd yn cynnwys:
• un a gafodd chwech o blant gyda’r wraig oedd yn cadw ei dŷ ond y bu iddo ei gadael yn sydyn pan ddaeth darpar briodferch â gwaddol mawr ar gael.
• hanes trist morwyn a syrthiodd mewn cariad â mab y sgweier ac a laddodd ei hun trwy yfed asid carbolig.
• un a oedd yn anghytuno â safbwynt gwleidyddol gweinidog y capel lleol ac a aeth ati i droi aelodau’r capel allan o’r capel a oedd ar dir y sgweier.
• un a heriodd rhedwr enwog i ras o Aberteifi dros Fynyddoedd y Preseli i Hwlffordd, pellter o 30 milltir.
• un a ddaeth yn grefyddwr selog iawn ac a ariannodd adeiladu capel Methodistaidd, ac a dalodd am ei gynnal a thalu ffi i bob pregethwr gwadd.
• y sgweier a brynodd wn carreg fflint i’w fwtler er mwyn cadw terfysgwyr Beca draw.
Anelir y llyfr at y darllenydd cyffredinol sy’n ymddiddori mewn hanes lleol, ac yn arbennig hanes 50 o blastai a’u perchnogion yn ne-orllewin Cymru. Mae copïau yn y siopau llyfrau nawr neu gellir eu cael gan yr awdur:Gerwyn Morgan: 01239 810752.