Pobl Pen Dinas & When is a Welsh manuscript not a Welsh manuscript? The repatriation of Gruffudd ap Cynan
Ymunwch â ni yn y cyflwyniad cyntaf mewn cyfres newydd, sef Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs, pan fydd Simon Rodway yn trafod Pobl Pen Dinas gyda Map Degwm yn wrthrych dan sylw a Peadar Ó Muircheartaigh yn holi When is a Welsh manuscript not a Welsh manuscript? The repatriation of Gruffudd ap Cynan gan edrych ar lawysgrif Peniarth 17.
Yn ystod y gyfres hon, sy’n elfen o waith Rhwydwaith y Llawysgrif a’r Llyfr, bydd aelodau o staff Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth yn sgwrsio am arwyddocâd un gwrthrych yr un o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Gan ddefnyddio mapiau, lluniau, llawysgrifau, toriadau papur newydd ac ewyllysiau hyd yn oed, bydd y sesiynau yn trafod amrywiaeth o destunau difyr sy’n ein cludo ar daith o’r cyn-oesoedd i heddiw, ac o Gymru i’r byd.
**Digwyddiad dwyieithog – darperir cyfieithu ar y pryd**