Wythnos Addysg Oedolion – Sgetsio Sain Ffagan

14:00, 21 Hydref 2022

Am ddim

Dewch i ymuno â gweithdy darlunio yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion.

Wedi’i fwriadu ar gyfer pob lefel o brofiad, dyma gyfle i ddatblygu eich ymarfer darlunio wrth i ni archwilio adeiladau, tiroedd a chasgliadau Sain Ffagan.

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn helpu i wella’ch lles, ac mae’n dda i’ch iechyd meddwl, felly dewch draw! Byddwn yn cwrdd yn y brif dderbynfa. Nid oes angen archebu lle.

Bydd deunyddiau ar gael, ond mae croeso i chi ddod â’ch deunyddiau eich hun hefyd.