I nodi Wythnos Wlân 2022, ymunwch â ni am ddathliad o bopeth gwlanog yn Amgueddfa Wlân Cymru!
Dysgwch am hanes diwydiant gwlân Cymru a chwrdd â’n tîm dawnus o grefftwyr wrth iddynt arddangos ein peirianwaith hanesyddol.
Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yn un o’n sesiynau Dysgu Troelli am ddim a fydd yn rhedeg trwy gydol y dydd. Bydd Marchnad Gwneuthurwyr bach yn cael ei chynnal gyda chymysgedd o grefftau a nwyddau gan grefftwyr a gwneuthurwyr lleol.
Bydd cynrychiolwyr o’n Gardd Liw Naturiol arobryn hefyd wrth law i rannu eu gwybodaeth am blanhigion a’u hangerdd am ffibrau naturiol.