HON 2022: Artistiaid Benywaidd yng Nghymru

17:00, 8 Mawrth 2023

Ymunwch â ni ar gyfer lansiad HON 2022 – Artistiaid Benywaidd yng Nghymru. Mae’r llyfr unigryw a chwbl ddwyieithog yma yn cynnwys deg o artistiaid gweledol benywaidd mwyaf arwyddocaol Cymru. Yn  ystod y digwyddiad bydd yr artistiaid yn trafod sut mae byw a gweithio yng Nghymru wedi’u hysbrydoli.

Yn HON 2022, mae’r artistiaid benywaidd amrywiol yma’n rhannu eu canfyddiadau a’u ffyrdd penodol o weld Cymru trwy eu geiriau a’u gweithiau mewn sawl cyfrwng – o baentio, ceramig a thecstilau i gerfluniaeth a fideo.

Yr artistiaid sydd wedi’u cynnwys yn HON 2022 yw Marian Delyth, Sadia Pineda Hameed, Angharad Pearce Jones, Julia Griffiths Jones, Christine Kinsey, Sian Parri, Sarah Rhys, Catrin Webster, Sarah Williams a Sarah Younan.

HON 2022 yw cyhoeddiad diweddaraf Sefydliad H’Mm, mudiad di-elw sy’n ymroi i godi proffil y celfyddydau a diwylliant ym mywydau pobl.

Wrth ddathlu eu pen-blwydd yn 10 mlwydd oed, nod Sefydliad H’Mm yw parhau i weithio gydag artistiaid benywaidd yng Nghymru gyda’r bwriad o gynnwys cyfraniadau gan artistiaid benywaidd ledled y byd yng nghyfrolau nesaf HON. Bydd eu gweledigaeth unigryw, ynghyd â’u hundod, yn adeiladu pontydd cryf o obaith gan wrthweithio yn erbyn amseroedd heriol a chythryblus y byd.

Digwyddiad dwyieithog – darperir cyfieithu ar y pryd.