Sgwrs ysbrydoledig gan y fam i 7 a Dysgwr y Flwyddyn eleni, Alison Cairns.
Nia Thomas fydd yn holi’r ferch sydd bellch wedi ymgartrefu yn Llannerch-y-medd am ei phenderfyniad i ddysgu’r Gymraeg, a’i phrofiadau a’r hwyl wrth wneud hynny!
Mynediad rhad ac am ddim. Cynhelir y sgwrs hon yn Saesneg.
Trefnir y digwyddiad ar ran cylchgrawn Lingo Newydd a chomig Wcw a’i ffrindiau, yn rhan o wibdaith Golwg ar Grwydr.
Diolch am gefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru a Chymru Greadigol i gynnal y digwyddiad hwn, yn rhan o brosiect Ein Stori Ni.