Amgueddfa Syr Henry Jones

19:00, 24 Chwefror 2023

am ddim

Sgwrs yn Gymraeg gan Ann Vaughan – gyda chyfieithiad opsiynol

Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yng nghanol pentref Llangernyw ar y brif ffordd A548 o Abergele i Lanrwst. Roedd yr amgueddfa yn ddau dŷ ers talwm, teulu Henry Jones ar y chwith a’i daid a nain ar y dde. Ar y chwith ceir gweithdy’r crydd ac ar y dde mae’r briws. Agorwyd yr Amgueddfa yn 1934 gan y cyn brif weinidog David Lloyd George.

Ganwyd Henry Jones yn 1852 ac roedd o gefndir tlawd. Crydd oedd ei dad a byddai Henry yn ei helpu yn y gweithdy. Nid oedd yn hoffi ysgol eglwys Llangernyw oherwydd y Welsh Not a phlant yn cael eu cosbi. Cafodd lyfrau gan Mrs Roxburgh i’w darllen ac fe addysgodd ei hun. Roedd yn fachgen galluog iawn yn ennil y Penny Readings a chanu. Cafodd fynd i ysgol Pandy Tudur at John Price y prifathro a’r gwas fferm. Cafodd ysgoloriaeth i fynd i goleg y Normal,Bangor yna bu’n dysgu yn Ne Cymru a darlithio yn Aberystwyth a Bangor cyn symud i brifysgol Glasgow. Sicrhaodd a sefydlodd Henry Jones ysgolion uwchradd yng Nghymru bedair blynedd ar ddeg o flaen Lloegr. Dyn blaengar iawn yn yr oes honno.

Roedd David Lloyd George a Henry Jones yn cyd oesi. Roedd y ddau o gefnidr tlawd, y ddau yn gweithio yng ngweithdy’r crydd. Yna helpodd Lloyd George Henry Jones pan oedd ei fab Elias Henry Jones yn garcharor Rhyfel Byd Cyntaf yn Yozgad, Twrci. Roedd Elias yn anfon cardiau post adref i’w dad, ei fam, a’i wraig gyda negeseuon cudd ynddynt a’r rheiny wedyn yn cael eu defnyddio i helpu’r milwyr. Hefyd roedd Lloyd George a Henry Jones a John Williams, Brynsiencyn yn ffrindiau oherwydd eu bod yn recriwtio dynion ifanc i fynd i ymladd yn y rhyfel.

Cliciwch ar y ddolen i gofrestru