‘Anwyl Fam’ – pererindod drwy’r Rhyfel Mawr

19:00, 14 Mawrth 2023

Bydd Ifor ap Glyn yn lansio’i lyfr newydd ‘Anwyl Fam’ – pererindod drwy’r Rhyfel Mawr am 7.00yh, nos Fawrth, 14.3.23 yng Nghanolfan Llanddewi Brefi. Mae’n seiliedig ar gasgliad unigryw o lythyrau rhyfel gan Dafydd Jones o Lanio ac yn ffrwyth blynyddoedd o ymchwil i’w hanes. ‘Ron i’n awyddus i ddweud hanes y Rhyfel Mawr mewn ffordd newydd’ meddai Ifor, ‘ac mae sawl elfen i’r llyfr – travelogue, hiwmor, gwaith ditectif- yn ogystal â’r hanes ei hun wrth gwrs!’

Bu farw Capten Dafydd Jones ym mrwydr Coed Mametz yn 1916, ond cadwodd Margaret Jones ei fam bob un o’r llythyrau a ysgrifennodd ati, hyd ddiwedd ei hoes. Hi oedd yr ‘Anwyl Fam’ yn y llythyrau, ac ynddyn nhw mae Dafydd yn disgrifio’r broses o gael ei hyfforddi fel milwr yng Nghymru, ac yna Lloegr, cyn troi at realiti’r ymladd yn Ffrainc. ‘Ond gan na chafodd Margaret erioed gyfle i weld yr holl lefydd yr oedd Dafydd yn eu disgrifio mor fyw yn ei lythyrau,’ meddai Ifor, ‘penderfynais i wneud rhyw fath o bererindod ar ei rhan.’
Ar y noson, bydd Ifor yn siarad am ei brofiadau ar y daith ac yn darllen ambell bwt o’r llyfr. ‘Mae’n fraint cael lansio ‘Anwyl Fam’ yn ardal Dafydd a’i deulu,’ meddai, ‘dwi’n hanner Cardi fy hunan, ac mae’r llyfr yn deyrnged i’r gymdeithas glos yma yng Ngheredigion a fagodd Dafydd dros ganrif yn ôl. Dewch draw ar y noson!’ Bydd Ifor yn arwyddo copïau o’r llyfr wedyn.