Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno… Caryl Parry Jones
Noson yng nghwmni Caryl Parry Jones – holi ag ateb, ac ambell i gân
Gyda Ffion Dafis yn holi
Ymunwch â ni yn Archif Ddarlledu Cymru wrth i Ffion Dafis holi’r gantores, cyfansoddwraig, cyflwynydd, comediwraig a’r trefnydd lleisiol Caryl Parry Jones am ei gyrfa a’i archif ddarlledu hi. Mi fydd Geraint Cynan yn ymuno gyda Caryl wrth iddi gloi’r noson gyda rhai hen ganeuon a chaneuon mwy diweddar.
Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd.
Tocyn: £10
Mae pris y tocyn yn cael ei ddefnyddio tuag at gostau’r prosiect.
Am fwy o fanylion am Archif Ddarlledu Cymru cliciwch yma.
Mewn partneriaeth â:
- S4C, BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales
Ariannwyd gan:
- Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru