Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno… Richard Harrington

19:30, 26 Hydref 2023

£10

Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno… Richard Harrington

Noson yng nghwmni’r actor Richard Harrington
Gyda Ffion Dafis yn holi

Ymunwch â ni yn Archif Ddarlledu Cymru wrth i Ffion Dafis cwestiynu’r actor Richard Harrington. Bydd Ffion yn holi Richard am ei yrfa, o’r man cychwyn hyd at heddiw, o’i ymddangosiad cyntaf ar y sgrin fach ar District Nurse yn 1987, ei bortread o DCI Tom Mathias yn Y Gwyll / Hinterland a ffilmiwyd yn Aberystwyth a’r ardal o amgylch,  a hefyd yn ei holi am gymryd rhan yn un o farathonau anoddaf y byd, sef Marathon des Sables.

Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd.

Tocyn: £10

Mae pris y tocyn yn cael ei ddefnyddio tuag at gostau’r prosiect.

Am fwy o fanylion am Archif Ddarlledu Cymru cliciwch yma.

Mewn partneriaeth â:

  • S4C, BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales

Ariannwyd gan / funded by:

  • Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru