
Arddangosfa o waith cyffrous, wedi’i greu gan rai o artistiaid a beirdd gorau Cymru
Ym mis Mawrth eleni, bydd yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd yn croesawu arddangosfa gelf unigryw yn arddangos gwaith artistiaid a beirdd mwyaf blaenllaw Cymru dan yr un to, am y tro cyntaf erioed – gan gynnwys gweithiau gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, Gillian Clarke, Ceri Wyn Jones ac artistiaid fel Dan Llywelyn Hall, Manon Awst a Neale Howells.
Bydd yr arddangosfa rhad ac am ddim ar agor i’r cyhoedd o 1 Mawrth, gan arddangos gwaith gan Celf Coast Cymru — prosiect a welodd y 10 bardd a 10 artist yn creu gweithiau a ysbrydolwyd gan eu darn lleol o Lwybr Arfordir Cymru, i nodi ei 10fed pen-blwydd.