Yn rhan o weithgareddau ‘Golwg ar Grwydr’, bydd Gohebydd Celfyddydol Golwg, Non Tudur, yn holi tri o awduron Ynys Môn – Malachy Edwards, Gareth Evans-Jones a Marged Esli – am eu llyfrau newydd, cyffrous.
Yn Y Delyn Aur mae Malachy Edwards yn trafod ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados; mae Gareth Evans-Jones yn ein tywys i fyd cylch o wrachod ym Mangor yn ei nofel Y Cylch; ac mae Marged Esli, un o actorion enwocaf Pobol y Cwm, yn adrodd hanesion difyr am y byd actio yn eu hunangofiant, Ro’n i’n arfer bod yn rhywun…
Dewch i’w hadnabod yn well yn y noson arbennig yma!