‘Awr o Gan’ yn Eglwys Fethodist Sant Thomas, Llanbed, bore Sul 14eg o fis Mai. Gwneir casgliad tuag at Apel Wythnos Cymorth Cristnogol Pwyllgor Llanbed a’r Cylch i helpu ffermwyr Malawi i blannu gwell hadau i gael pris tecach am eu cnydau a sicrhau dyfodol gwell i’w plant. Mae Corwynt Freddy wedi dinistrio cnydau ac mae dros 500,000 o drigolion wedi eu disodli a channoedd wedi colli eu bywydau.
Croeso cynnes i bawb – a bydd paned wedi’r gwasanaeth.