Ballet Cymru: TIR, Stream of Consciousness

19:30, 30 Tachwedd 2023

Ballet Cymru yn cyflwyno

TIR

Cerys Matthews

Stream of Consciousness

Marcus Jarrell Willis

Mae Ballet Cymru yn cyflwyno noson ddisglair o’r ddawns orau.

Albwm eiconig Cerys Matthews o Gerddoriaeth Werin Cymru yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer TIR, ac mae’r coreograffwyr Darius James OBE ac Amy Doughty wedi defnyddio 11 o ganeuon yr albwm i greu gwaith unigryw yn arbennig ar gyfer dawnswyr Ballet Cymru.

Mae Marcus J Willis, Coreograffydd Preswyl Ballet Cymru, yn dod â chyflwyniad newydd i’r llwyfan o’i waith coreograffig, Stream of Consciousness, a ddangoswyd am y tro cyntaf gan Ailey II yn 2016. Mae Stream of Consciousness yn rhoi bywyd corfforol i’n meddyliau mewnol. Mae Willis yn plethu chwe ystum syml i’r “ffrwd,” sef yr ymson cythryblus ym meddwl pob person. Wedi’i osod i gyflwyniad newydd, cyfoes Max Richter o’r Pedwar Tymor gan Vivaldi, mae’r gwaith hwn yn adleisio tensiwn a dwyster llanw cyfnewidiol y gerddoriaeth.

Ymhellach i’r thema hon, mae Willis hefyd yn dod â’i greadigaeth unigol glodwiw, Beyond Reach, i repertoire Ballet Cymru. Gan ddathlu ei phen-blwydd yn 15, mae’r unawd fythol hon yn cyfleu eiliad o fyfyrio, sy’n cynrychioli taith barhaus bywyd unigolyn. Ceir y cynnil a’r anghytûn yn yr unawd agos-atoch hon gyda cherddoriaeth gan Franz Schubert.